FANDOM

1,940,528 Pages

StarIconGreen
LangIcon
Deio

This song is by Cerys Matthews.

Mi dderbyniais bwt o lythyr,
Oddiwrth Mistar Jones o'r Brithdir,
Ac yn hwnnw'r oedd o'n gofyn
Awn i hefo Deio o Dywyn.

Fe gychwynnwyd ar nos Wener
Cyrraedd i Fawddwy erbyn swper;
Fe gaed yno uwd a menyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

Dod ymlaen ac heibio'r Ddinas
Bara a chaws a chwrw yng Ngwanas,
Pan gyrhaeddsom Dalyllyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

Dod ymlaen at Aberygynolwyn
Ac ymlaen at Graig y Deryn:
Pan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn.
Gwaeddai Deio, 'Dacw Dywyn!'

Os byddai'n byw un flwyddyn eto
Mynna'n helaeth iawn gynilo-
Mi ga'i bleser anghyffredin
Wrth fynd efo Deio i Dywyn!

External links